TELERAU TRWYDDED MEDDALWEDD MICROSOFT

GWIRIAD IECHYD CYFRIFIADUR MICROSOFT WINDOWS


OS YDYCH CHI'N BYW YN (NEU YN FUSNES GYDA'R PRIF LEOLIAD BUSNES YN) UNOL DALEITHIAU AMERICA, DARLLENWCH YR ADRAN “YMWADIAD CYFLAFAREDDU A CHYD-ACHOS SY’N RHWYMO” ISOD. MAE’N EFFEITHIO AR SUT CAIFF ANGHYDFODAU EU DATRYS.


Mae'r telerau trwydded hyn yn gytundeb rhyngoch chi a Microsoft Corporation (neu un o'i gwmnïau cyswllt). Maen nhw’n berthnasol i’r meddalwedd a enwir uchod ac unrhyw wasanaethau neu ddiweddariadau meddalwedd Microsoft (ac eithrio i’r graddau y daw gwasanaethau neu ddiweddariadau o’r fath gyda thelerau newydd neu ychwanegol, yn yr achos hynny mae’r telerau gwahanol hynny’n berthnasol ac nid ydynt yn newid eich hawliau chi na hawliau Microsoft sy’n ymwneud â gwasanaethau neu feddalwedd cyn diweddaru). OS YDYCH CHI'N CYDYMFFURFIO Â’R TELERAU TRWYDDED HYN, BYDD GENNYCH YR HAWLIAU ISOD. DRWY DDEFNYDDIO'R MEDDALWEDD, RYDYCH YN DERBYN Y TELERAU HYN.

1.    HAWLIAU GOSOD A DEFNYDDIO.

a)    Cyffredinol. Cewch osod a defnyddio faint bynnag o gopïau o'r meddalwedd ag y dymunwch chi.

b)    Cydrannau Trydydd Parti. Gall y meddalwedd gynnwys cydrannau trydydd parti gyda hysbysiadau cyfreithiol ar wahân neu wedi’u llywodraethu gan gytundebau eraill, fel y disgrifir yn y ffeil(iau) HysbysiadauTrydyddParti sy’n dod gyda’r meddalwedd.

2.     DATA.

a)    Casglu Data. Gall y meddalwedd gasglu data amdanoch chi a’ch defnydd o’r meddalwedd a’i anfon i Microsoft. Caiff Microsoft ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwasanaethau a gwella ein cynnyrch a gwasanaethau. Gallwch ddewis optio allan o’r senarios hyn, ond nid y cyfan, fel y disgrifir yn nogfennau’r cynnyrch.  Mae rhai nodweddion yn y meddalwedd sydd hefyd o bosib yn eich galluogi i gasglu data gan ddefnyddwyr eich rhaglenni. Os byddwch chi’n defnyddio’r nodweddion hyn i alluogi casglu data yn eich rhaglenni, rhaid i chi gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol, gan gynnwys darparu hysbysiadau priodol i ddefnyddwyr eich rhaglenni. Gallwch ddysgu mwy am gasglu a defnyddio data yn y dogfennau help a’r datganiad preifatrwydd yn https://aka.ms/privacy. Drwy ddefnyddio’r meddalwedd rydych chi’n caniatáu’r arferion hyn.

b)    Prosesu Data Personol. I’r graddau mae Microsoft yn brosesydd neu’n is-brosesydd data personol mewn perthynas â’r meddalwedd, mae Microsoft yn gwneud yr ymrwymiadau yn Nhelerau Rheoliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Ddiogelu Data Telerau Gwasanaethau Ar-lein i bob cwsmer o 25 Mai, 2018, yn https://docs.microsoft.com/en-us/legal/gdpr.

3.    CWMPAS Y DRWYDDED. Mae’r meddalwedd hwn yn cael ei drwyddedu, nid ei werthu. Mae Microsoft yn cadw pob hawl arall. Oni bai fod y gyfraith berthnasol yn rhoi mwy o hawliau i chi er gwaethaf y cyfyngiad hwn, fyddwch chi ddim yn (ac ni fydd gennych hawl i):

a)    gweithio o amgylch unrhyw gyfyngiadau technegol yn y meddalwedd sydd ond yn caniatáu i chi ei ddefnyddio mewn ffyrdd penodol;

b)    tynnu’r meddalwedd oddi wrth ei gilydd, ei ddatgrynhoi na’i ddatgymalu, na cheisio tynnu’r cod ffynhonnell ar gyfer y meddalwedd, heblaw am a dim ond i’r graddau sy’n ofynnol gan delerau trwyddedu trydydd parti sy’n rheoli’r defnydd o gydrannau ffynhonnell agored penodol a allai fod wedi’u cynnwys gyda’r meddalwedd;

c)    tynnu, lleihau, rhwystro neu addasu unrhyw hysbysiadau gan Microsoft neu ei gyflenwyr yn y meddalwedd;

d)    defnyddio’r meddalwedd mewn unrhyw ffordd sydd yn erbyn y gyfraith nac i greu neu ddosbarthu drwgwedd; nac

e)    rhannu, cyhoeddi, dosbarthu neu brydlesu’r meddalwedd, darparu’r meddalwedd fel datrysiad annibynnol wedi’i gynnal i eraill ei ddefnyddio, na throsglwyddo’r meddalwedd neu’r cytundeb hwn i unrhyw drydydd parti.

4.    CYFYNGIADAU AR ALLFORIO. Rhaid i chi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau allforio domestig a rhyngwladol sy’n berthnasol i’r meddalwedd, sy’n cynnwys cyfyngiadau ar gyrchfannau, defnyddwyr a defnydd. I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau allforio, ewch i https://aka.ms/exporting.

5.    GWASANAETHAU CEFNOGI. O dan y cytundeb hwn nid oes yn rhaid i Microsoft ddarparu unrhyw wasanaethau cefnogi ar gyfer y meddalwedd. Bydd unrhyw gefnogaeth yn cael ei darparu “fel y mae”, “gyda phob nam” a heb warant o unrhyw fath.

6.    DIWEDDARIADAU. O bryd i’w gilydd gall y meddalwedd chwilio am ddiweddariadau, a’u llwytho i lawr a’u gosod i chi. Dim ond gan Microsoft neu ffynonellau awdurdodedig y cewch chi gael diweddariadau. Efallai y bydd angen i Microsoft ddiweddaru eich system er mwyn rhoi diweddariadau i chi. Rydych chi’n cytuno i dderbyn y diweddariadau awtomatig hyn heb unrhyw hysbysiad ychwanegol. Efallai na fydd diweddariadau’n cynnwys neu’n gallu delio â holl nodweddion, gwasanaethau na dyfeisiau perifferol y meddalwedd cyfredol.

7.    YMWADIAD CYFLAFAREDDU A CHYD-ACHOS SY'N RHWYMO. Mae’r Adran hon yn berthnasol os ydych chi’n byw yn (neu, os ydych chi’n fusnes, mae eich prif leoliad busnes yn) Unol Daleithiau America.  Os bydd gennych chi a Microsoft anghydfod, rydych chi a Microsoft yn cytuno i geisio ei ddatrys yn anffurfiol am 60 diwrnod. Os na allwch chi a Microsoft wneud hynny, rydych chi a Microsoft yn cytuno i gyflafareddu unigol sy’n rhwymo gerbron Cymdeithas Cyflafareddu America dan y Ddeddf Cyflafareddu Ffederal (“FAA”)a pheidio ag erlyn mewn llys gerbron barnwr neu reithgor. Yn lle hynny, bydd cyflafareddwr niwtral yn penderfynu. Ni chaniateir cyd-achosion, cyflafareddu ar draws dosbarth, achosion twrnai-cyffredinol preifat, nac unrhyw achosion eraill pan fydd rhywun yn gweithredu mewn capasiti cynrychioladol; ni chaniateir chwaith cyfuno achosion unigol heb gydsyniad pob parti. Mae'r Cytundeb Cyflafareddu llawn yn cynnwys rhagor o delerau ac mae ar gael yn https://aka.ms/arb-agreement-4. Rydych chi a Microsoft yn cytuno i'r telerau hyn.

8.    Y CYTUNDEB CYFAN. Y cytundeb hwn, ac unrhyw delerau eraill y gall Microsoft eu darparu ar gyfer ychwanegiadau, diweddariadau, neu raglenni trydydd parti, yw'r cytundeb cyfan ar gyfer y meddalwedd.

9.    Y GYFRAITH BERTHNASOL A’R LLEOLIAD I DDATRYS ANGHYDFODAU. Os cawsoch chi'n meddalwedd yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada, mae cyfreithiau'r dalaith lle rydych chi’n byw (neu, os ydych chi’n fusnes, prif leoliad eich busnes) yn llywodraethu dehongli’r cytundeb hwn, hawliadau am ei dorri, a phob hawliad arall (gan gynnwys diogelu defnyddwyr, cystadleuaeth annheg a hawliadau camwedd), heb ystyried egwyddorion gwrthdaro cyfreithiol, ac eithrio bod yr FAA yn llywodraethu popeth sy’n ymwneud â’r cyflafareddu. Os cawsoch chi’r meddalwedd mewn unrhyw wlad arall, mae ei chyfreithiau’n berthnasol, ac eithrio bod yr FAA yn llywodraethu popeth sy’n ymwneud â’r cyflafareddu. Os yw awdurdodaeth ffederal Unol Daleithiau America’n bodoli, rydych chi a Microsoft yn cydsynio i awdurdodaeth lwyr a lleoliad yn y llys ffederal yn King County, Washington ar gyfer pob anghydfod a wrandewir mewn llys (ac eithrio cyflafareddu). Os nad ydych yn gwneud hynny, rydych chi a Microsoft yn cydsynio i awdurdodaeth lwyr a lleoliad yn Uwch Lys King County, Washington ar gyfer pob anghydfod a wrandewir yn y llys (ac eithrio cyflafareddu).

10. HAWLIAU DEFNYDDWYR; AMRYWIADAU RHANBARTHOL. Mae’r cytundeb hwn yn disgrifio rhai hawliau cyfreithiol. Efallai fod gennych chi hawliau eraill, gan gynnwys hawliau defnyddwyr, dan gyfreithiau eich talaith neu’ch gwlad. Ar wahân ac yn wahanol i’ch perthynas â Microsoft, mae’n bosibl y bydd gennych hawliau hefyd mewn perthynas â’r parti roeddech chi wedi cael y meddalwedd ganddynt. Nid yw'r cytundeb hwn yn newid yr hawliau eraill hynny os nad ydy cyfreithiau'ch talaith neu’ch gwlad yn caniatáu iddo wneud hynny. Er enghraifft, os cawsoch chi'r meddalwedd yn un o’r rhanbarthau isod, neu os bydd cyfraith gwlad orfodol yn berthnasol, yna mae’r darpariaethau canlynol yn berthnasol i chi:

a)    Awstralia. Mae gennych chi warantau statudol o dan Gyfraith Defnyddwyr Awstralia ac nid oes bwriad i ddim byd yn y cytundeb hwn effeithio ar yr hawliau hynny.

b)    Canada. Os cawsoch chi'r meddalwedd hwn yng Nghanada, gallwch roi’r gorau i dderbyn diweddariadau drwy ddiffodd y nodwedd diweddaru awtomatig, datgysylltu'ch dyfais oddi wrth y Rhyngrwyd (os a phan fyddwch chi’n ailgysylltu â’r Rhyngrwyd, fodd bynnag, bydd y meddalwedd yn ailddechrau chwilio am ddiweddariadau a'u gosod), neu ddadosod y meddalwedd. Mae’n bosibl y bydd dogfennau’r cynnyrch, os oes rhai, hefyd yn nodi sut mae diffodd diweddariadau ar gyfer eich dyfais neu feddalwedd penodol.

c)    Yr Almaen ac Awstria.

i.     Warant. Bydd y meddalwedd sydd wedi’i drwyddedu’n briodol yn cyflawni’n sylweddol fel y disgrifir mewn unrhyw ddeunyddiau Microsoft a ddaw gyda’r meddalwedd. Fodd bynnag, nid yw Microsoft yn rhoi dim gwarant dan gontract mewn perthynas â'r meddalwedd sydd wedi'i drwyddedu.

ii.    Cyfyngu ar Atebolrwydd. Yn achos ymddygiad bwriadol, esgeulustod difrifol, hawliadau ar sail y Ddeddf Atebolrwydd Cynnyrch, yn ogystal â mewn achos o farwolaeth neu anaf personol neu ffisegol, mae Microsoft yn atebol yn ôl y gyfraith statudol.

Yn amodol ar gymal ii uchod, fydd Microsoft ond yn atebol am fân esgeulustod os bydd Microsoft yn torri rhwymedigaethau cytundebol perthnasol o’r fath, y mae eu cyflawni’n hwyluso perfformiad y cytundeb hwn, y byddai eu torri yn peryglu diben y cytundeb hwn a chydymffurfiad y gall parti ymddiried ynddo’n gyson (a elwir yn "ddyletswyddau allweddol"). Mewn achosion eraill o fân esgeulustod, ni fydd Microsoft yn atebol am fân esgeulustod.

11. YMWADIAD WARANT. CAIFF Y MEDDALWEDD EI DRWYDDEDU “FEL Y MAE.” CHI SY’N GYFRIFOL AM Y RISG O’I DEFNYDDIO. NID YW MICROSOFT YN RHOI UNRHYW WARANTAU, GWARANTAU NAC AMODAU PENODOL. I’R GRADDAU A GANIATEIR O DAN GYFREITHIAU PERTHNASOL, MAE MICROSOFT YN EITHRIO POB WARANT YMHLYG, GAN GYNNWYS MARCHNADWYEDD, ADDASRWYDD AT DDIBEN PENODOL, A PHEIDIO Â THORRI AMODAU.

12. CYFYNGU AR AC EITHRIO IAWNDAL. OS OES GENNYCH CHI UNRHYW SAIL DROS ADENNILL IAWNDAL ER GWAETHAF YR YMWADIAD BLAENOROL, GALLWCH ADENNILL GAN MICROSOFT A’I GYFLENWYR DDIM OND IAWNDAL UNIONGYRCHOL HYD AT U.S. $5.00. NI CHEWCH ADENNILL UNRHYW IAWNDAL ARALL, GAN GYNNWYS IAWNDAL CANLYNIADOL, COLLI ELW, ARBENNIG, ANUNIONGYRCHOL NEU ACHLYSUROL.

Mae'r cyfyngiad yn berthnasol i (a) unrhyw beth sy’n ymwneud â’r meddalwedd, y gwasanaethau, y cynnwys (gan gynnwys cod) ar wefannau trydydd parti, neu raglenni trydydd parti; a (b) hawliadau am dorri contract, warant, gwarant, neu amod; atebolrwydd caeth, esgeulustod, neu gamwedd arall; neu unrhyw hawliad arall; ym mhob achos i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith berthnasol.

Mae hefyd yn berthnasol hyd yn oed os oedd Microsoft yn gwybod neu dylai fod wedi gwybod am y posibilrwydd o iawndal. Efallai na fydd y cyfyngiad neu’r eithriad uchod yn berthnasol i chi oherwydd efallai nad yw'ch talaith neu'ch gwlad yn caniatáu eithrio neu gyfyngu ar iawndal achlysurol, canlyniadol neu iawndal arall.